Description: Heather logo portraitCynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Busnes

Mehefin 2016

 

 

 

 

Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog 11, 12 a 13 – Deddf Cymru 2017 ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru

 

Diben

1.        Yn unol â Rheol Sefydlog 11.7(iv), mae'r Pwyllgor Busnes yn gyfrifol am wneud argymhellion ar arferion a gweithdrefnau cyffredinol y Cynulliad, gan gynnwys unrhyw gynigion i ail-wneud neu ddiwygio'r Rheolau Sefydlog.

2.        Mae'r adroddiad yn argymell diwygio Rheolau Sefydlog 11, 12 a 13. Mae'r newidiadau a gytunwyd gan y Pwyllgor Busnes i'w gweld yn Atodiad A, ac mae'r cynigion ar gyfer Rheolau Sefydlog newydd i'w gweld yn Atodiad B.

Cefndir

3.        Roedd adrannau 32 a 33 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn gwneud darpariaethau penodol yn ymwneud â pherthynas y Cynulliad ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a chyda Gweinidogion y DU yn fwy cyffredinol, a adlewyrchwyd wedyn yn Rheolau Sefydlog y Cynulliad. Roedd y darpariaethau hyn yn cynnwys gofyniad bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn cymryd rhan yn nhrafodion y Cynulliad o leiaf unwaith y flwyddyn fel rhan o ymgynghoriad ar raglen ddeddfu Llywodraeth y DU.

4.        Diddymwyd y ddwy adran hyn gan Ddeddf Cymru 2017, ac nid ydynt wedi bod yn weithredol ers 31 Mawrth 2017. O ganlyniad, ystyriodd y Pwyllgor Busnes effaith y newidiadau hyn ar Reolau Sefydlog y Cynulliad ac mae'n cyflwyno'r cynigion a ganlyn i'r Cynulliad ar gyfer newidiadau i'r Rheolau Sefydlog.

5.        Ystyriodd y Pwyllgor Busnes y materion hyn yn gyntaf ym mis Mawrth 2017, ac ar ôl ymgynghori â grwpiau, cytunwyd o ran egwyddor i'r newidiadau arfaethedig ar 13 Mehefin 2017.

Cynigion ar gyfer newid

Sicrhau bod dogfennau ar gael

6.        Mae'r Rheolau Sefydlog presennol yn adlewyrchu gofynion gwreiddiol y Ddeddf:

12.4     Cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol, rhaid trefnu bod unrhyw ddogfen a ddarperir ar gyfer busnes yr ymdrinnir ag ef yn y cyfarfodydd llawn ar gael yn gyhoeddus.

12.5     Rhaid trefnu bod unrhyw ddogfennau y cyfeirir atynt yn Rheol Sefydlog 12.4 ar gael i Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar yr un pryd ag y byddant ar gael i’r Aelodau.

7.        Yn ymarferol, ni chymerwyd unrhyw gamau penodol i gydymffurfio â'r Rheol Sefydlog hon. Oherwydd bod dogfennau sy'n ymwneud â'r Cyfarfod Llawn ar gael i'r cyhoedd yn gyffredinol ar yr un pryd ag y byddant ar gael i'r Aelodau, nid oes unrhyw broblem yn codi o ran sicrhau bod dogfennau ar gael i'r Ysgrifennydd Gwladol ar yr un pryd ag y byddant ar gael i’r Aelodau. Ni fyddai unrhyw ddiben ymarferol i gadw'r Rheol Sefydlog hon, ac felly bwriedir ei dileu.

Hawl yr Ysgrifennydd Gwladol i gymryd rhan mewn trafodion

8.        Yn unol â gofynion blaenorol adran 32 o'r Ddeddf, dywed Rheol Sefydlog 13.3:

Mae gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru hawl i gymryd rhan mewn cyfarfodydd llawn ond nid i bleidleisio. Caiff y Llywydd alw ar yr Ysgrifennydd Gwladol i siarad mewn unrhyw ddadl y mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn cymryd rhan ynddi.

9.        Er nad yw'n ofyniad statudol mwyach i wneud darpariaeth o'r fath, gallai'r Cynulliad, pe bai'n dymuno gwneud hynny, benderfynu cadw hawl yr Ysgrifennydd Gwladol i gymryd rhan yn y Cyfarfod Llawn. Fodd bynnag, nid oes darpariaeth o'r fath yn bodoli yn yr Alban na Gogledd Iwerddon.

10.     Mae'r Pwyllgor Busnes yn cynnig ymdrin â hawl yr Ysgrifennydd Gwladol i gymryd rhan yn y Cyfarfod Llawn drwy ddarpariaeth gyffredinol newydd i ganiatáu i bobl heblaw Aelodau gymryd rhan yn nhrafodion y Cyfarfod Llawn ar wahoddiad y Llywydd. Byddai darpariaeth o'r fath yn caniatáu i'r Ysgrifennydd Gwladol gymryd rhan yn y trafodion pe bai'n cael ei wahodd, fel unrhyw un arall, ond yn dileu ei hawl gyffredinol i gymryd rhan. Cynigir y dylai'r Ysgrifennydd Gwladol gael diben penodol cyn cymryd rhan yn y fath fodd, a chael ei wahodd gan y Llywydd, yn dilyn ymgynghoriad â'r Pwyllgor Busnes, ac ni fyddai'r hawl i gymryd rhan yn cynnwys yr hawl i bleidleisio.

11.     Yn y gorffennol, mae pwysigion a wahoddwyd, heblaw'r Ysgrifennydd Gwladol, wedi annerch y Cynulliad ar gofnod ond y tu allan i fusnes ffurfiol y Cyfarfod Llawn. Byddai'r ddarpariaeth hon yn galluogi unigolion a wahoddwyd, nad ydynt yn Aelodau, i annerch y Cynulliad fel rhan ffurfiol o drafodion y Cyfarfod Llawn yn y dyfodol, gan ddileu'r angen i wahaniaethu yn y fath fodd.

Rhaglen ddeddfu Llywodraeth y DU

12.     Roedd yr adran 33 a ddiddymwyd yn cynnwys gofyniad bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn cymryd rhan yn nhrafodion y Cynulliad o leiaf unwaith y flwyddyn fel rhan o ymgynghoriad ar raglen ddeddfu Llywodraeth y DU. O ganlyniad, mae gofyniad bod amser yn cael ei neilltuo bob blwyddyn ar gyfer dadl ar raglen ddeddfu Llywodraeth y DU wedi'i gynnwys yn Rheol Sefydlog 11.21.

13.     Er nad oes gofyniad statudol mwyach i'r Cynulliad ystyried rhaglen ddeddfu Llywodraeth y DU pan fo'r Ysgrifennydd Gwladol yn bresennol, gallai'r Cynulliad gadw'r gofyniad i drafod rhaglen ddeddfu Llywodraeth y DU bob blwyddyn. Fodd bynnag, ni fyddai'n glir beth fyddai diben y fath ddadl, na phwy fyddai'n ei harwain, gan na fyddai bellach yn rhan o ymgynghoriad statudol gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

14.     Felly, mae'r Pwyllgor Busnes yn cynnig y dylid dileu'r gofyniad am ddadl o'r Rheolau Sefydlog. Gallai dadl ar raglen ddeddfu Llywodraeth y DU barhau i ddigwydd pe bai grŵp y Llywodraeth neu'r gwrthbleidiau yn penderfynu trefnu dadl o'r fath yn eu hamser eu hunain, neu pe bai Aelodau unigol yn cyflwyno cynnig ac yn gofyn i'r Pwyllgor Busnes neilltuo amser er mwyn cynnal dadl.


Camau gweithredu

15.     Derbyniodd y Pwyllgor Busnes y newidiadau i'r Rheolau Sefydlog yn ffurfiol ar 19 Medi 2017, a gwahoddir y Cynulliad i gymeradwyo'r cynigion a nodir yn Atodiad B.

 


Atodiad A

RHEOL SEFYDLOG 11 – Trefn Busnes

Categorïau o Fusnes y Cyfarfodydd Llawn

11.21

Rhaid trefnu bod amser ar gael ym mhob blwyddyn Cynulliad ar gyfer dadleuon ar yr eitemau canlynol o fusnes: 

(i)        amcanion polisi a rhaglen ddeddfu Llywodraeth y DU (yn unol ag adran 33 o’r Ddeddf);

(ii)      amcanion polisi a rhaglen ddeddfu’r llywodraeth;

(iii)     cynigion a wneir ar ran grwpiau gwleidyddol nad ydynt yn grwpiau gwleidyddol a chanddynt rôl weithredol (a chyn belled ag y bo modd rhaid i’r amser a ddyrennir i bob grŵp gwleidyddol ar gyfer cynigion a wneir ganddo gyfateb i gynrychiolaeth y grŵp yn y Cynulliad); 

(iv)     cynigion a wneir gan unrhyw Aelod nad yw’n aelod o’r llywodraeth;

(v)       dadleuon ar adroddiadau a osodir gan bwyllgorau; 

(vi)     Dadleuon Byr; a

(vii)    deddfwriaeth pan nad yw’r Aelod sy’n gyfrifol am y ddeddfwriaeth yn aelod o’r llywodraeth.

Diwygio'r Rheol Sefydlog hon.

Dileer pwynt (i) er mwyn adlewyrchu'r ffaith bod adran 33 o'r Ddeddf wedi'i diddymu.

Er na fydd gofyniad statudol neu Reol Sefydlog mwyach i'w gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad drafod rhaglen ddeddfu Llywodraeth y DU, gallai dadl o'r fath barhau i gael ei threfnu gan y Llywodraeth neu'r Pwyllgor Busnes.

RHEOL SEFYDLOG 12 – Busnes yn y Cyfarfodydd Llawn

Cyfarfodydd Llawn

12.4

Cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol, rhaid trefnu bod unrhyw ddogfen a ddarperir ar gyfer busnes yr ymdrinnir ag ef yn y cyfarfodydd llawn ar gael yn gyhoeddus. 

Dim newid.

 

Caiff y Rheol Sefydlog hon ei chynnwys er gwybodaeth.

12.5

Rhaid trefnu bod unrhyw ddogfennau y cyfeirir atynt yn Rheol Sefydlog 12.4 ar gael i Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar yr un pryd ag y byddant ar gael i’r Aelodau.

 

Dileu'r Rheol Sefydlog hon.

Mae'r Rheol Sefydlog hon yn adlewyrchu'r gofyniad yn adran 32(2) o'r Ddeddf, sydd wedi'i diddymu mwyach.

 

Yn y gorffennol, ni chymerwyd unrhyw gamau penodol i gydymffurfio â'r Rheol Sefydlog hon, gan fod dogfennau sy'n ymwneud â busnes y Cyfarfod Llawn ar gael i'r cyhoedd yn gyffredinol ar yr un pryd ag y byddant ar gael i'r Aelodau. Felly, nid oes unrhyw broblem yn codi o ran sicrhau bod dogfennau ar gael i'r Ysgrifennydd Gwladol ar yr un pryd ag y byddant ar gael i’r Aelodau.

 

 

RHEOL SEFYDLOG 13 – Y Drefn yn y Cyfarfodydd Llawn

 

 

Rheolau’r Dadleuon

13.3

Mae gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru hawl i gymryd rhan mewn cyfarfodydd llawn ond nid i bleidleisio. Caiff y Llywydd alw ar yr Ysgrifennydd Gwladol i siarad mewn unrhyw ddadl y mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn cymryd rhan ynddi.

Caiff y Llywydd, ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, wahodd unrhyw berson i gymryd rhan mewn Cyfarfod Llawn at ddiben penodol. Caniateir i berson a wahoddwyd siarad, ond ni chaniateir iddo bleidleisio.

 

Diwygio'r Rheol Sefydlog hon.

Mae'r Rheol Sefydlog hon yn adlewyrchu adran 32(1) newydd y Ddeddf, sydd wedi'i diddymu mwyach.

Yn lle'r gofyniad penodol ynghylch yr Ysgrifennydd Gwladol, cynigir cyflwyno darpariaeth gyffredinol i'r Llywydd, mewn ymgynghoriad â'r Pwyllgor Busnes, wahodd unrhyw berson i gymryd rhan mewn trafodion.

Mae nifer o unigolion nad ydynt yn Aelodau wedi annerch y Cynulliad ers 1999, ar gofnod ond y tu allan i fusnes ffurfiol y Cyfarfod Llawn. Ar un achlysur, cyfarfu'r Cynulliad fel Pwyllgor o'r Cynulliad Cyfan i glywed anerchiad.

Byddai'r ddarpariaeth newydd yn cyflwyno trefn ffurfiol ar gyfer gwahodd unigolion nad ydynt yn Aelodau i gymryd rhan mewn Cyfarfodydd Llawn at ddiben penodol ar wahoddiad y Llywydd.

 


 


RHEOL SEFYDLOG 11 – Trefn Busnes

Categorïau o Fusnes y Cyfarfodydd Llawn

11.21 Rhaid trefnu bod amser ar gael ym mhob blwyddyn Cynulliad ar gyfer dadleuon ar yr eitemau canlynol o fusnes: 

(i)        [Dilëwyd y Rheol Sefydlog drwy benderfyniad yn y Cyfarfod Llawn arXX XXXX XXXX]

(ii)      amcanion polisi a rhaglen ddeddfu’r llywodraeth;

(iii)     cynigion a wneir ar ran grwpiau gwleidyddol nad ydynt yn grwpiau gwleidyddol a chanddynt rôl weithredol (a chyn belled ag y bo modd rhaid i’r amser a ddyrennir i bob grŵp gwleidyddol ar gyfer cynigion a wneir ganddo gyfateb i gynrychiolaeth y grŵp yn y Cynulliad); 

(iv)     cynigion a wneir gan unrhyw Aelod nad yw’n aelod o’r llywodraeth;

(v)       dadleuon ar adroddiadau a osodir gan bwyllgorau; 

(vi)     Dadleuon Byr; a

(vii)    deddfwriaeth pan nad yw’r Aelod sy’n gyfrifol am y ddeddfwriaeth yn aelod o’r llywodraeth.

 

RHEOL SEFYDLOG 12 – Busnes yn y Cyfarfodydd Llawn

Cyfarfodydd Llawn

 

12.4  Cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol, rhaid trefnu bod unrhyw ddogfen a ddarperir ar gyfer busnes yr ymdrinnir ag ef yn y cyfarfodydd llawn ar gael yn gyhoeddus. 

12.5  [Dilëwyd y Rheol Sefydlog drwy benderfyniad yn y Cyfarfod Llawn ar XX XXXX XXXX]

 

RHEOL SEFYDLOG 13 – Y Drefn yn y Cyfarfodydd Llawn

Rheolau’r Dadleuon

 

13.3 Caiff y Llywydd, ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, wahodd unrhyw berson i gymryd rhan mewn Cyfarfod Llawn at ddiben penodol. Caniateir i berson a wahoddwyd siarad, ond ni chaniateir iddo bleidleisio.